Yn Cartrefi Cymunedol Cymru, rydym wedi gweithio gyda thua 100 o sefydliadau, gan gynnwys cymdeithasau tai a phartneriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd o bob rhan o Gymru, i ddatblygu ein maniffesto Cartref. Mae'n galw ar bob plaid wleidyddol i roi'r cartref yng nghanol eu cynlluniau.
Mae Cartref yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r sector, yn nodi nifer o eisiau ac, yn bwysig, yn gwneud rhai ymrwymiadau hanfodol i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru nesaf.
Rydym o ddifrif am fod eisiau newid ac mae ein maniffesto Cartref yn galw ar Lywodraeth Gymru nesaf i:
- Buddsoddi £1.5bn i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd.
- Cyflwyno pecyn gwerth £4bn i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi cymdeithasol ledled Cymru.
- Dod â digartrefedd i ben.
- Ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd gynnwys cysylltedd digidol fel safon
- A mwy…
Dadlwythwch a darllenwch ein maniffesto llawn nawr!
Cofrestrwch eich diddordeb i dderbyn diweddariadau