Cartref.
Mae “Arhoswch gartref” yn ymadrodd a glywsom dro ar ôl tro yn ystod y pandemig.
Ni chafodd ein cartrefi erioed gymaint o sylw; mae llawer ohonom yn treulio cymaint o amser o’u mewn; ac mae cynifer o agweddau o’n bywydau yn troi o’u hamgylch.
Nid yw ‘Cartref’ erioed wedi golygu mwy.
Rhywle diogel, cysurus a saff i oroesi storm y pandemig. Rhywle sy’n addasu i’r newid yn ein hanghenion. Rhywle yn gysylltiedig â’n gwaith, addysg, gwasanaethau cyhoeddus – ac â’n gilydd.
Mae pob etholiad yn bwysig. Ond mae’r etholiad hwn yn ymwneud â diffinio llwybr Cymru allan o’r heriau a achosodd y pandemig i bob un ohonom. Mae gan ei ganlyniad y potensial i lywio llwybr i ffyniant ac iechyd ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ymysg y caledi anhygoel a achoswyd gan COVID-19, mae cyfle i edrych o’r newydd ar hen heriau, i godi ein huchelgeisiau ac i ddod yn ôl yn gryfach.
Ni fu ble rydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae’r heriau mawr i’n hinsawdd, i’n heconomi a threchu’r anghydraddoldeb yn ein cymdeithas yn dal i fod yno. Mewn rhai achosion, mae’r pandemig wedi gwneud yr her hyd yn oed yn fwy a golygu bod mwy o frys nag erioed i ganfod datrysiadau. Mae hyn yn ddifrifol.
Ac mae cymaint y gallwn ei wneud, gyda’n gilydd.
Mae gennym weledigaeth bod Cymru yn wlad lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Mae cartref da, gyda’r gefnogaeth gywir lle mae ei hangen, yn hollbwysig i bob person neu deulu, beth bynnag eu hamgylchiadau.
Bydd angen partneriaeth gyda ffocws a phenderfyniad ym mhob rhan o Gymru i wireddu hyn. Rydym yn ddiolchgar, felly, am gyfraniad bron gant o gyfeillion o sefydliadau allanol yn gweithio wrth ochr cannoedd o gydweithwyr o gymdeithasau tai i ymchwilio’r heriau a datblygu’r syniadau am newid a amlinellir yn y ddogfen hon.
Gwyddom nad yw syniadau yn werth dim heb gynlluniau ymarferol a thrwyadl; a’r arweinyddiaeth a’r egni i wneud i hynny ddigwydd. Rydym eisiau chwarae ein rhan. Y flwyddyn nesaf byddwn yn cyhoeddi ein ‘Cynllun Gweithredu ar gyfer Llywodraethu’ sy’n cyd-fynd â’r ddogfen hon. Bydd hyn yn nodi’r camau gweithredu manwl y credwn sydd eu hangen i roi’r syniadau hyn ar waith, ac i feithrin adferiad sy’n rhoi blaenoriaeth i gartref gweddus a fforddiadwy fel y man cychwyn ar gyfer bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus. Mae pawb ohonom angen rhywle i’w alw’n gartref. Dyma’r amser i wneud i hynny ddigwydd.
Stuart Ropke, Prif Weithredydd, Cartrefi Cymunedol Cymru
Ein Syniadau ar gyfer Newid
Nid yw’r heriau a amlinellwn yn y maniffesto hwn yn rhai newydd. Ond mae gan effaith cyfunol digwyddiadau byd-eang megis newid hinsawdd, poblogaeth sy’n heneiddio, y newid yn ein perthynas gydag Ewrop a’r pandemig y potensial i gynyddu anghydraddoldeb, taro’r tlotaf yn galetaf a’n gosod yn ôl yn hytrach nag ymlaen.
Ein cenhadaeth ar y cyd yw darparu cartrefi ansawdd da, fforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru. Eto rydym yn darparu llawer mwy na dim ond brics a morter, ac rydym eisiau gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i gynyddu ein heffaith ar y cyd.
Drwy ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol, rydym yn helpu i gryfhau economïau lleol: darparu swyddi a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol. A drwy waith ar draws ein busnesau a’n cartrefi ymdrechwn fod yn sector carbon isel – gan ostwng ein heffaith ar yr amgylchedd a mynd ati i edrych am gyfleoedd i ostwng biliau ynni.
Drwy ddarparu tai hygyrch a thai â chymorth, cymhorthion ac addasiadau, a chymorth cysylltiedig â thai rydym yn helpu i gynnig dewis gwirioneddol i bobl am ble maent yn byw a’u helpu i aros mor annibynnol ag sydd modd os yw eu hanghenion yn newid, yn agos at y bobl a’r lleoedd sydd bwysicaf iddynt. Ac mae ein haelodau sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig, yn cynnwys gofal preswyl a gofal nyrsio, yn cynnig gofal ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y person pan na all pobl aros yn eu cartrefi eu hunain.
Rydym o ddifrif am newid. Fel sefydliadau preifat sy’n bodoli er y budd cyhoeddus rydym ynddi am yr hirdymor. Byddwn yn dod â’n hasedau, pobl a chyllid i bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad a gwasanaethau cyhoeddus lleol i gefnogi’r newidiadau a amlinellwn yn y ddogfen hon.
I wneud hyn rydym angen i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad gymryd camau beiddgar yn y meysydd dilynol:
1. Buddsoddi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Dylid rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiad cyfalaf a’i fesur yn ôl yr effaith y gall ei gael ar genedlaethau’r dyfodol i gefnogi symud i economi a seiliwyd ar egwyddorion llesiant.
Byddai sicrwydd cyllid tymor hirach yn rhoi’r gallu i gymdeithasau tai gynllunio, buddsoddi, cymryd risgiau a meithrin partneriaethau.
Ail fantoli gwariant ymaith o argyfwng i ataliaeth hirdymor dros dymor nesaf y Senedd. Cyflymu a rhoi sicrwydd i’r broses ddatblygu.
Byddwn yn chwarae ein rhan i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ddatblygwyr cyfrifol.
Byddwn yn buddsoddi yn lleol.
Byddwn yn adeiladu cadwyni cyflenwi lleol cryf i wneud cartrefi presennol yn effeithiol o ran ynni.
Byddwn yn gwneud i arian cyhoeddus fynd ymhellach drwy gyfateb pob £1 a fuddsoddir mewn tai cymdeithasol newydd.
3. Lleoedd mae pobl eisiau byw ynddynt
Mae cyfnodau clo lleol wedi rhoi ymdeimlad dyfnach i lawer ohonom o’r lleoedd lle’r ydym yn byw, eu ffiniau daearyddol a’r gwasanaethau cyhoeddus a busnesau sy’n gweithredu yno.
Dylai Llywodraeth Cymru nesaf ddatblygu strategaeth gynhwysfawr a galluogi ar gyfer canol trefi sydd â chartrefi yn greiddiol iddi, gan rymuso cymunedau lleol i gymryd penderfyniadau am sut i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.
Dylai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad roi mesurau ar waith i ddiweddu allgau digidol.
Mae angen brys i ddiwygio’r system gofal a chymorth cymdeithasol a buddsoddiad fel y caiff ei yrru gan werth, yn hytrach na chost, a bod ganddi’r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau deilliannau gwell ar gyfer dinasyddion, y gweithlu a gwerth cymdeithasol i gymunedau.
Cynyddu cyllid gofal cymdeithasol
Byddwn yn creu lleoedd mae pobl eisiau byw ynddynt.
Byddwn yn gwneud i bob cysylltiad gyfrif.
Byddwn yn defnyddio ein gofodau ac adeiladau cymunedol.
Byddwn yn cynyddu i’r eithaf yr effaith y gall byw yng nghanol tref ei wneud.
Byddwn yn dod yn sector carbon isel.
Yr achos dros Newid
Gostwng tlodi yw’r man cychwyn ar gyfer pobl a lleoedd llewyrchus, iach a chysylltiedig.
Mae hyn yn ddifrifol!
Pam fod yn rhaid i ni weithredu yn awr.
Er yr holl ymdrechion, mae lefelau tlodi’n parhau’n ystyfnig o uchel: am dros ganrif bu Cymru yn gyson â’r lefelau uchel o dlodi.
Mae rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn un o’r tlotaf yn Ewrop gyfan ac mae cynhyrchiant yng Nghymru yr isaf yn y Deyrnas Unedig.
Nid yw cynyddu swyddi yn ddigon ar ben ei hun. O’r 420,000 o oedolion oedran gwaith sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, mae 60% yn byw ar aelwydydd lle mae o leiaf un oedolyn mewn gwaith.
Rydym o ddifrif
am chwarae ein rhan.
Gall tai da ysgogi ac ymestyn gweithgaredd economaidd yn lleol. Am bob 1 person a gyflogir yn llawn-amser gan gymdeithas tai, caiff 1.5 o swyddi ansawdd da eraill eu cefnogi mewn man arall yn yr economi
Mae hyn yn ddifrifol!
Pam fod yn rhaid i ni weithredu yn awr.
Mae gan Gymru lefelau uwch o bobl sy’n hŷn, mewn iechyd gwael ac yn dlotach na gweddill
y Deyrnas Unedig. Mae eich disgwyliad bywyd yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw yng Nghymru.
Rydym o ddifrif
am chwarae ein rhan.
Mae cartref ansawdd da yn arbed arian i’r GIG.
- Gallai pob £1 a gaiff eu gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd bregus arwain at enilliad o £4 ar fuddsoddiad.
- Am bob £1 a gaiff eu gwario ar addasiadau cyn rhyddhau o ysbyty, mae arbediad o £7.50 ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gallai atal digartrefedd arwain at arbedion o tua £9,266 fesul person o gymharu â chaniatáu i ddigartrefedd barhau am 12 mis.
Mae cartref ansawdd da yn gwella iechyd pobl.
- Mae addasiadau cartref yn arwain at 26% yn llai o anafiadau sydd angen triniaeth feddygol (a achosir gan godymau bob blwyddyn)
- 39% yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau cardio-anadlol ac anafiadau yn y rhai gyda thai wedi eu huwchraddio
- Gostyngiad o 3.9% mewn ymweliadau i feddygon teulu ar gyfer cyflyrau anadlol ym muddiolwyr cynllun Nyth (o gymharu gyda chynnydd o 9.8% yn y grŵp rheoli)
Mae hyn yn ddifrifol!
Pam fod yn rhaid i ni weithredu yn awr.
Mae gofod yn ein cartrefi yn brin. Roedd gan lai na thraean (31%) o bobl a arolygwyd ym mhob math o dai ofod arbennig ar gyfer swyddfa neu astudio a theimlai 11% nad oedd ganddynt ddigon o le ers y cyfnod clo.
Mae mynediad cyfartal i swyddi, dysgu a chyfleoedd hyfforddiant yn dibynnu mwy nag erioed ar fynediad digidol. Mae allgau digidol yn ddrud i’r pwrs cyhoeddus.
Rydym o ddifrif
am chwarae ein rhan.
Rydym ynddo am yr hirdymor, gan wario arian gyda busnesau bach yn lleol.
Rydym yn gweithio gyda’n tenantiaid yn ystod y pandemig. Yn ystod pandemig COVID-19 gwnaeth cymdeithasau tai dros 37,000 alwad llesiant a chafodd 47% o’r preswylwyr hyn eu cefnogi gyda chyngor ac arweiniad penodol.
Mae hyn yn ddifrifol!
Pam fod yn rhaid i ni weithredu yn awr.
Mae gan Gymru beth o’r stoc hynaf a lleiaf effeithol o ran gwres yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Cafodd 32% o stoc tai Cymru ei godi cyn 1919.
Er gwelliannau mawr, mae 155,000 o aelwydydd yn dal i wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae tlodi tanwydd yn fwyaf cyffredin mewn ardaloedd incwm isel a dirwasgiad economaidd cyffredinol.
Rydym o ddifrif
am chwarae ein rhan.
Gallwn gadw pobl yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi am fwy o amser: Gallai uwchraddio cartrefi arwain at 39% yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau cylchrediad ac ysgyfaint.
Bydd buddsoddi mewn cartrefi effeithiol o ran ynni yn rhoi hwb economaidd lleol. Byddai ailwampio hanner tai cymdeithasol Cymru dros dymor nesaf y llywodraeth yn cefnogi dros 12,000 swydd, 3,000 cyfle hyfforddiant a chreu £2.5bn mewn allbwn economaidd.